Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Hydref 2021
Amser:
09.31 -
12.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12443
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Elinor Williams, Ofcom Rhuanedd Richards, BBC Cymru Wales Owen Evans, S4C Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Wales Caitriona Noonan, Prifysgol Caerdydd Hywel Wiliam, Ofcom Advisory Committee for Wales Dr Ruth McElroy, Prifysgol De Cymru Gareth Williams, TAC |
Staff y Pwyllgor: |
Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond nododd y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Heledd Fychan AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan AS ddatganiad o fuddiant perthnasol. Mae hi'n adnabod Rhuanedd Richards yn bersonol
2 Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus: Ofcom
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ofcom.
3 Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus: Darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BBC Cymru, ITV Cymru, a S4C.
4 Dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus: Academyddion
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru, Prifysgol De Cymru, a TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru).
5 Papurau i'w nodi
Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i:
· ysgrifennu at S4C ac Ofcom ynghylch darllediadau rhad ac am ddim o gemau rygbi rhyngwladol yr hydref Cymru;
· gwahodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol; ac i
· lunio adroddiad byr ar ddyfodol y cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.